655 Rho in gofio angau Iesu Alltud Eifion 1813-1905 Rho in gofio angau Iesu gyda diolchiadau llawn, a chael derbyn o rinweddau maith ei wir, achubol lawn; bwyta’i gnawd drwy ffydd ddiffuant, yfed gwaed ei galon friw, byw a marw yn ei heddwch: O’r fath wir ddedwyddwch yw. Addfwyn Iesu, dangos yma ar dy fwrdd d’ogoniant mawr, megis gynt wrth dorri bara ymddatguddia inni nawr; bydd yn wledd ysbrydol inni er cyfnerthu’n henaid gwan, gad in brofi o’r grawnsypiau nes cael gwledd y nef i'n rhan.